Yr enw am fideo ar wefannau, DVDs, gwaith graffeg, gwaith print, arwyddion a dylunio gwefannau
Yr ystod lawn o wasanaethau marchnata – y cyfan dan yr un to!

Tystlythyrau

Rydym yn freintiedig o gael gweithio gyda rhai o’r prif gwmnïau a sefydliadau preifat, cyhoeddus a sector gwirfoddol, ac rydym yn falch iawn pan fyddant yn dweud pethau cadarnhaol am ein cwmni a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Cliciwch ar logos ein cleientiaid isod...


“Fel ymgynghoriaeth reoli sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau yn y farchnad rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda CD&P MEDIA ar ystod integredig o brosiectau gwasanaethau marchnata, gan gynnwys creu ein fideo corfforaethol, ein darllediadau gwe o eirda gan ein cleientiaid, ein gwefan ni fel cwmni a dylunio a chynhyrchu ein deunydd marchnata a gwerthu.

Rydym bob amser wedi gweld CD&P MEDIA yn barod i ymateb, yn greadigol ac yn gost effeithiol.” - Keith Armstrong, Rheolwr Gyfarwyddwr


“Mae Cruden wedi gweithio gyda thîm CD&P am dros 25 mlynedd, ar ystod eang o brosiectau marchnata. Mae eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth fanwl am ein marchnad a’n cwsmeriaid, ein busnes a’n diwylliant ac yn arbennig ein pobl, wedi eich gwneud yn bartner gwerthfawr ac yn un o’r cyfranwyr allweddol at ein llwyddiant parhaus.” - David Dickie, Cyfarwyddwr Marchnata a Datblygu Busnes.


“Mae’r Gymdeithas Sant Vincent de Paul (Lloegr a Chymru) wedi gweithio’n glos gyda John a’i dîm yn CD&P MEDIA ers bron i bymtheg mlynedd.

Fel rhai sy’n cefnogi ein nodau a’n hamcanion, maent yn ein hadnabod yn dda iawn ac maent wedi ein cynorthwyo ar nifer o brosiectau marchnata, gan gynnwys ein fideo corfforaethol, ein llyfr - ‘The Mind and Heart of a Vincentian’, ein deunydd cyfathrebu a chodi arian, arwyddion ein siopau elusen a’n cyhoeddiad chwarterol, ‘Vincentian Concern’.” - Elizabeth Palmer, Cyfarwyddwraig


“Mae’r tîm yn CD&P MEDIA wedi gweithio yn glos gyda Grŵp Tai Pennaf am dros ddeng mlynedd.

Yn yr amser hwnnw mae CD&P wedi ein cynorthwyo gyda dewis helaeth o brosiectau marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys ein hunaniaeth gorfforaethol newydd, ein Hadroddiadau Gweithgareddau blynyddol, ein cylchlythyrau cyson i denantiaid a’n fideos newydd yn hyrwyddo ein gwaith gyda phartneriaid sy’n rhanddeiliaid ym maes Gofal Ychwanegol sy’n ehangu’n gyson.” - Graham Worthington, Prif Weithredwr.

Newyddion
28th February 2012

The Runcorn-based Rocksavage Power Company commissioned CD&P MEDIA to create its Outage Induction DVD for 2012 this month. The Outage Induction is intended to help maintain Rocksavage’s excellent safety and environmental performance - underlining that safety is the plant’s number one priority.

Read More »
3rd January 2012

CD&P MEDIA marked its 15 year links with St Vincent’s Housing by creating the ‘Association’s all-new website, recently...

SVHA

Read More »
Rhagor o newyddion »